Atgofion Cymreig o'r Ail Ryfel Byd
Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol yn wefan ddwyieithog sy'n coffáu yr Ail Ryfel Byd trwy atgofion y rhai fu byw trwy'r Rhyfel. Mae'r wefan yn ffurfio teyrnged barhaol ac yn adnodd addysgol ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod. Mae'n cynnwys dros 1500 o ddelweddau o safon uchel a storïau sy'n dogfennu profiadau pobl yn ystod amser rhyfel yng Nghymru. Mae'r delweddau yn cynnwys llyfrau dogni a chardiau adnabod, llythyrau a anfonwyd o'r rheng flaen, toriadau papur newydd, lluniau o'r lluoedd, dogfennau swyddogol, cardiau post a chofroddion a llawer o eitemau rhyfeddol eraill.
Deilliodd y prosiect hwn o'r arddangosfa deithiol a grëwyd gan yr Imperial War Museum fel rhan o'r prosiect DU-gyfan, Eu Gorffennol Eich Dyfodol. Roedd yr arddangosfa yn coffáu'r Ail Ryfel Byd ac yn edrych ar ei ddylanwad parhaol ar bobl a lleoedd. Crëwyd amryw o fersiynau o'r arddangosfa, a theithiodd o amgylch y DU rhwng Chwefror 2005 a Mawrth 2006. Yng Nghymru datblygwyd yr arddangosfa mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gydgordiodd ei thaith trwy Gymru hefyd.
Cyd-deithiodd staff Culturenet gyda'r arddangosfa gan gyfweld pobl ar hyd a lled y wlad oedd ag atgofion o fywyd yng Nghymru yn ystod Y Rhyfel. Yna digidwyd eitemau o'u casgliadau personol oedd yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd. Mae'r rhain yn cynnwys ffotograffau, cardiau dogni, taflenni'r llywodraeth, ryseitiau, cofnodion y lluoedd arfog, llythyrau, cardiau post, eitemau o wisgoedd ac offer a llawer iawn mwy. Cofnododd staff Culturenet y storïau sy'n mynd gyda'r eitemau a ddigidwyd - gwybodaeth am y bobl yn y ffotograff, y profiad o geisio bwydo teulu ar ddognau amser rhyfel, sut roedd yr offer yn cael ei ddefnyddio (yn enwedig os oedd atgofion arbennig yn gysylltiedig ag hwy) a storïau am yr unigolyn oedd yn gwisgo'r wisg - mewn gair, sut roedd y Rhyfel yn effeithio ar Gymru a phobl Cymru, y rhai yn y lluoedd arfog a'r rhai gartref fel ei gilydd.
Ariennir Eu Gorffennol Eich Dyfodol gan
Gronfa'r Loteri Fawr.


