Hawlfraint
Mae'r holl ddelweddau sy'n ymddangos ar y wefan yn ddelweddau digidol o eitemau gwreiddiol sy'n cael eu cadw gan unigolion sydd wedi cyfrannu i'r prosiect. Mae'r cyfranwyr yn garedig iawn wedi cytuno i ganiatáu i ddefnyddwyr y wefan hon lawrlwytho delweddau at ddefnydd personol, ac at ddefnydd addysgol anfasnachol - mae hyn yn cynnwys defnydd gan athrawon, disgyblion a myfyrwyr, at bwrpas ymchwil neu ddysgu, yn yr ystafell ddosbarth, yr ysgol, neu ar fewnrwyd ysgol neu goleg.
Fodd bynnag, rhaid cael cliriad hawlfraint ar gyfer unrhyw ddefnydd arall o ddelweddau a ffeiliau clyweledol, e.e. ar wefan gyhoeddus neu mewn cyhoeddiad. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio delweddau at Culturenet Cymru, a fydd yn cysylltu â'r cyfrannwr sy'n cadw'r eitem wreiddiol, gan mai nhw sy'n berchen ar hawlfraint y delweddau digidol. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio ffeiliau clyweledol at Culturenet Cymru, sy'n berchen ar hawlfraint y ffeiliau clyweledol.
Defnyddiwch y ffurflen adborth i wneud cais am gliriad hawlfraint, os gwelwch yn dda.


