Arfon Bullock
To'n i'm yn gwybod le oedd Corea a to'n i ddim wedi clywad amdano o'r blaen. Cethon ni'n gyrru i Corea rôl Dolig 1951 a gymodd o chwech i saith wythnos arnon ni i fynd yno gyda cwch.
Mynd i'r army yn eighteen years old. Cychwyn o Bethesda efo trên. Wedi gneud deg wythnos o training calad dyma ni'n cael gwybod ein bod ni'n mynd overseas. Oddan nhw'n deud wrthan ni ein bod ni'n mynd i Corea.
To'n i'm yn gwybod le oedd Corea a to'n i ddim wedi clywad amdano o'r blaen. Cethon ni'n gyrru i Corea rôl Dolig 1951 a gymodd o chwech i saith wythnos arnon ni i fynd yno gyda cwch. Mynd yno oeddan ni i helpu'r South Koreans am bod North Koreans wedi invadio South, ac felly odd yr Yanks, Canadians a'r Australians yno.
Ces i job i ddreifio officer 'ma o gwmpas ac oddan ni'n mynd o un lle i'r llall. Odd y jeep odd gen i yn un dda ofnadwy. Odd hi'n mynd i fyny'r mynyddoedd 'ma. Dim ond tracia odd yna. Odd y 355 'ma - odd o'n gythral o fynydd.(1) Ces i ngyrru fyny 'na un diwrnod i ôl un o'n mêts, odd o wedi cal shell shock. Ac ar y ffordd i fyny codais rhyw American a dyma fo'n deud 'thaf i, 'I'll get a medal for this', a finna'n deud nol 'tho fo, 'If you get back alive', me' fi, achos odd y shells yn dod lawr yn ofnadwy y diwrnod hwnnw. Ac ar y ffordd i lawr nath 'na un 'mortar bomb' landio o 'mlaen i. Mi chwthodd fyny o 'mlaen i a naethon ni ddisgyn allan o'r jeep, yr hogyn bach a fi. Nes i dreio hi nôl i'r camp pa r'un bynnag.
Es i lawr i Seoul un diwrnod, mynd ag officer yna, ac ar y ffordd adra odd hi'n dechre t'wllu. Chawn i'm rhoi gola, wedyn oni isho dod adra. Chawn i ddim bwyd os o'n i'n hwyr. Prun bynnag, ar y ffordd adra - adra oni'n galw front line adag honno - odd na dent a'r Yanks yn cael bwyd a phetha felly yno, ac mi stopiais i yno i gal panad a rhyw fechdan bach a dyma fi fyny i'r jeep a byta fanno. A phwy ddoth allan o'r dent ond yr Yank mowr 'ma a llond ei freichia o fwyd. Ac mi odd y plant bach 'ma yna hefo tunia - oddan nhw bron a llwgu creaduriaid bach - oddan nhw yno'n begio, isho bwyd. Wrth gwrs oni wedi rhoi sandwich iddyn nhw a tamad bach o de. Odd yr Yank 'ma, 'wan, doedd o'm yn licio be odd y plant 'ma'n neud. Rhoth o gelpan i un ohonyn nhw nes odd o'n rowlio lawr ochr y mynydd, a nes inna wylltio. Nes i afael yn y reiffl, rhoi un rownd i fyny'r breech a pan glywodd o'r glec honno dyma fo'n gollwng y bwyd i gyd a rhedag a'r plant wrth eu bodda yn cael y bwyd i gyd.
Ar ô´l dod adra o Corea, odd hi'n anodd setlo. Cymrodd hi rhyw chwe mis i mi ddod at fy hun. Pan oni'n fychan, cyn mynd i Corea, oni'n mynd i capal bob dydd Sul ac oddan ni'n canu am blant bach yn China a thiroedd Japan ac oddan ni'n mynd rownd gyda'r nos efo bocs hel pres cenhadaeth i yrru pobl drosodd i siarad am Dduw i China a Japan. A wyddoch chi be, nes i rioed feddwl y baswn i'n mynd yno i'w lladd nhw. Korean War - 'ma nhw wedi anghofio pob dim amdani, a peth gora i mi ydy anghofio hefyd.
(1) "Hill" oedd un o'r mynyddoedd a oedd ar y rheng flaen yn Rhyfel Corea. Mae ei enw'n tarddu o'i uchder.


