TPYF
  

Emrys Coupe

Dwi'n cofio 'y nhad yn deud rhywfaint wrtha i am y Rhyfel ond cadw ddistaw wnaeth o rhan fwyaf o'r adag.

Fy enw i yw Emrys Coupe. Cefais fy ngeni yn 1947, felly ar ol y Rhyfel. Dwi'n cofio 'y nhad yn deud rhywfaint wrtha i am y Rhyfel ond cadw ddistaw wnaeth o rhan fwyaf o'r adag. Odd o yn yr 'army' yn rhyfela yn Ffrainc am tua pedair pum mlynedd. Mi gath o'i anafud ac mi ddoth adra ac yn ol wedyn. Dwi'n cofio un peth o'r Rhyfel odd gynno fo oedd bayonet German ac mi odd o'n iwso hwwnw i dorri pricia.

Fel o'n i'n mynd yn hynach mi odd o'n mynd yn boen arna i fod y German bayonet ma gynno fo a felly o'n i'n poeni ei fod o wedi lladd soldiwrs a dyma fi'n gofyn iddo fo pan oni tua wyth naw oed, Sais odd 'y nhad, 'Did you kill anybody during the war?', ac mi odd o'n gwestiwn gwirion heb un gweld. Dyma fo'n troi ata i, a dyma fo'n deud, 'That's not a very nice question to ask.' Ar ol hynny nes i fyth ofyn y cwestiwn yna.

Odd Mam yn forwyn yn Rochdale o'r oed tua tair ar ddeg. Odd rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd radag hynny, dim pres i ofalu ar eu hol, roedden nhw'n ddeg o blant. Odd Rochdale yn ymyl Manceinion ac ma hi'n cofio'r blackouts a bomio Manceinio a chysgu lawer i noson, pawb yn y selar. Roedd hi'n gweithio yn y munitions factory yn gwneud bwledi i'r Rhyfel.

Mae'n siwr, pan oni'n hogyn, be dwi'n gofio odd yn rhoi mwya o hapusrwydd i mi odd mynd i weld Nain ar fore Sadwrn ar 'y meic a gofyn iddi neud tatw ffa a llaeth a mynd i'r ffarm ar 'y meic efo dau bisar a dod yn ol a cal tatw llaeth a roli poli jam a chystard gin Nain. Amsar braf iawn.

Dwi'n cofio 1957. Elvis Presley a 'Jailhouse Rock' ar record 45 vinyl. Odd hynny'n hwyl ofnadwy. Dechra tyfu fyny.

Un stori dwi'n glywad .. dwi di glywad am fom yn cae Perargia (?) a Dewyrth Ifor, odd o yn yr Home Guard a odd o'n brolio wedyn na fo odd runig un gath ei nafud gan y Germans yn Llanfachreth, achos pan nath y bom ddisgyn odd o wrthi'n shafio a mi nath o ddychryn gymint mi nath dorri 'i hun yn ei wynab a felly odd o'n brolio fod y Germans wedi tynnu gwaed oddi arno fo!.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK. Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509