TPYF
  

Emrys Davies

Fel y byddem ni'n ei alw, ac yn gorfod byw ar datws, maip a beth bynnag arall gallem ddod o hyd iddo yn y caeau

Fy enw yw Emrys Davies. Cefais fy ngeni 22 Mehefin 1925 mewn pentref bach y tu allan i Gwm Rhondda. Ymunais 'r Cartreflu pan oeddwn yn bymtheg oed ac yna cefais fy ngalw i wasanaethu ym 1939 ac yna es i i Aberhonddu i'r Dering Lines lle roeddem yn hyfforddi fel milwr troed.

Ar l deuddeg wythnos o hyfforddi es i o fan'na i Herne Bay yng Nghaint i ymuno 4ydd Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Roedd y gatrawd yn fataliwn y fyddin diriogaethol, a ddaeth o Lanelli yng ngorllewin Cymru, ac roeddent yn cael eu hadnabod fel 'Y Sospans' gan fod diwydiant tun yno. Aeth ein tm rygbi i chwarae'r tm yn Llanelli ac fe guron ni'r tm cartref ac fe gyflwynodd maer y dref sosban i'n cyrnol ac fe roddon ni fflach sosban ar ein hysgwyddau ac fe gafodd y sosban ei hun ei rhoi ar jp y cyrnol a phan aethom ni i Normandi roedd ar flaen y llong pan groesom i Normandi a cafodd ei rhoi ar ei jp pan oeddem yn ymladd yno. Cafodd ei ffrwydro ddwywaith ac fe'i rhoddodd ar y Bren Gun Carrier i wneud yn siwr y byddai'n saffach, ond cafodd ei ffrwydro eto. A daeth y sosban honno oedd gennym ni gyda ni yr holl ffordd i ddiwedd y Rhyfel.

Aethom draw i Normandi ar D plus 20, sef 26 Mehefin 1944, a gadawsom ymgyrch Normandi ar l llawer o ymladd ar 5 Awst 1944 ac fe ryddhaom ni bentref bach o'r enw Maizet lle rwy'n dychwelyd bob blwyddyn i ddathlu gyda'r bobl yno lle ry'n ni'n cael croeso gwych.

Ar l hynny aethom dan fwledi at yr Almaenwyr yr holl ffordd yn l i Calais oherwydd ar y pryd roedd yr Almaenwyr yn saethu V1au, sef bomiau sy'n hedfan, i fomio Llundain, felly roedd rhaid i ni eu gyrru nhw i sicrhau nad oeddent yn gwneud mwy o ddifrod. Yna dyma ni'n gyrru'r Almaenwyr mor bell Chamlas Albert ac yno roeddem ni'n flinedig gan ein bod wedi dod mor bell. Roeddem yn flinedig yn gorfforol a doedd gennym ni ddim petrol na bwledi. Mewn gwirionedd, petrol a bwledi oedd yn cael y flaenoriaeth, gan fod disgwyl i ni filwyr 'fyw ar y tir' fel y byddem ni'n ei alw, ac yn gorfod byw ar datws, maip a beth bynnag arall gallem ddod o hyd iddo yn y caeau. Erbyn i ni gyrraedd Camlas Albert roeddem yn flinedig iawn iawn.

Roedd cyfnod o tua pythefnos pan gawsom ffug-ryfel pan nad oedd yr Almaenwyr eisiau'n gweld ni a doeddem ni ddim eisiau eu gweld nhw.

Yna es i aros yn Yr Almaen wedyn, dan feddiannaeth, tan 1947 pan ddes adref ac ailddechrau fy ngwaith fel groser tan imi briodi ym 1950.

(1) Dering Lines, ger Aberhonddu, oedd y ganolfan hyfforddi troedfilwyr yng Nghymru. (2) Cerbyn milwrol bychan oedd y Bren Gun Carrier. Roedd yn cael ei ddefnyddio i gludo milwyr ac offer ac roedd ganddo wn arno gam amlaf. (3) Mae 'D plus 20 yn cyfeirio at yr ugeinfed diwrnod wedi glaniadau Dydd-D ar 6 Mehefin 1944.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509

;