Fred Davies
Rwy'n gwybod cafodd 'nhad ei ddal yn Norwy yn ystod y rhyfel ac roedd yn garcharor rhyfel am bum mlynedd yn Stalag 8B yn Lamsdorf, yr Almaen.
Cafodd fy nhad, Edgar Davies, ei alw i ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar ddiwedd 1939. Dim ond dwy oed oeddwn i ar y pryd ac yn rhy ifanc i gofio. Cafodd fy mrawd, Bryn, ei eni jyst ar ôl i 'nhad fynd i'r rhyfel, ym mis Rhagfyr ’39. Roedd mam yn arfer gweithio am awr neu ddwy'r diwrnod am 2/6 yr wythnos yn glanhau ty'r drws nesaf i'r eglwys yn Aberdyfi. Yn ystod y Rhyfel roeddem ni'n byw ar wy powdwr. Dim ond unwaith bob pythefnos byddem yn cael wyau ffres o fferm y teulu yn Aberdyfi.
Roedd y telegram cyntaf i ni dderbyn oddi wrth y fyddin i ddweud wrthym fod 'nhad wedi mynd ar goll yn ystod brwydr. Tua deunaw mis yn ddiweddarach ym 1944 rwy'n cofio gwylio mam yn hongian dillad i sychu un diwrnod, a daeth bachgen ifanc i'r fferm gyda thelegram. Roedd y telegram yn dweud fod 'nhad yn fyw ac iach ac mewn ysbyty ymadfer yn yr Alban.
Rwy'n gwybod cafodd 'nhad ei ddal yn Norwy yn ystod y Rhyfel ac roedd yn garcharor rhyfel am bum mlynedd yn Stalag 8B yn Lambsdorf, yr Almaen. Tra oedd yn garcharor rhyfel roedd ei ddwylo wedi'u cadwyno gyda'i gilydd, a'r unig bryd y bydden nhw'n tynnu'r cadwyni oedd iddo fynd i'r ty bach. Tra oedd yn garcharor, i basio'r dyddiau, gwnaeth helmed o edau'r blancedi ar ei wely. Cymerodd wifren o sbringiau ei wely i wneud nodwydd, a bu rhaid iddo guddio'r helmed yn ei ddillad neu yn y fatres fel na fyddai'r Almaenwyr yn ei gweld.
Un bore ym 1945 roeddem ni'n cael brecwast ac yn paratoi i fynd i'r ysgol. Rwy'n cofio roeddem ni'n cael wyau wedi'u berwi i frecwast am y tro cyntaf mewn pythefnos. Roedd cnoc ar y drws. Roedd y fenyw o'r orsaf yn Aberdyfi wedi seiclo i'n ty i roi'r newyddion i ni fod Dad wedi cyrraedd yr orsaf ac roedd ar ei ffordd adre. Cydiodd mam yn y ddau ohonom a doeddem ni ddim wedi gorffen ein brecwast. Doeddwn i ddim eisiau mynd am fy mod i eisiau gorffen fy wy. Arhosais adre ac ar ôl i mi orffen fy mrecwast eisteddais ar ben y grisiau, yn aros iddyn nhw ddod adref.
Tua phymtheg munud yn ddiweddarach daeth 'nhad adref gyda mam a 'mrawd, yn cael eu dilyn gan hanner y pentref! Roedd Aberdyfi'n gymuned fach, glòs. Daethant at y drws a phan ofynnodd mam i fi ddod lawr siglais fy mhen, ond des i lawr yn ddigon sydyn pan agorodd 'nhad ei fag a thynnu cwch tegan allan. Cafodd yr ysgolion i gyd weddill y diwrnod i ffwrdd.
Roedd yn ddiwrnod bendigedig a chawsom fwy o ymwelwyr yn y ty nag erioed o'r blaen. 'Nhad oedd y carcharor rhyfel cyntaf i gyrraedd adref i Sir Feirionydd ac fe drefnodd y capeli a'r eglwysi gyngerdd fawr i'w groesawu adref.


