TPYF
  

Helena Rees

Dw in cofio cael gwahoddiad i fynd ar drip i Cadburys World

Ar ol y rhyfel bum yn gwneud cwrs NDD (National Diploma in Dairying) yn Aber. Yna cael swydd yn Llundain yng ngofal labordy yn testio'r llaeth. Yna run swydd yn Tattenhall tu allan i Gaer.

Yn 1952 ges i swydd yn Nolgellau yn rheolwraig y dafarn laeth newydd. Hufenfa Meirion oedd wedi prynur adeilad oedd yn hen westy wedii addasu i fod yn fflatiau, swyddfeydd a chaffi. Roedd gan Farmers Marts ddwy swyddfa fyny grisiau. Nhw oedd yn cynnal arwerthiannau o Gorwen a Harlech i Fachynlleth. On in byw mewn un or fflatiau. Lle cysurus iawn ond bod on fach, cegin fach, fach, stof nwy, sinc ac un cwpwrdd bwyd a dynai gyd, roeddwn in defnyddio fridge y milkbar. Wedyn roedd gen i stafell fyw gyda thn glo, tan drydan yn yr haf a radio, doedd gan neb oeddwn in nabod deledu bryd hynny, wedyn un llofft a stafell ymolchi ar dafarn laeth ar y llawr isa. Roedd y dafarn ar agor o 9 tan hanner awr di wyth o ddydd Llun tan ddydd Gwener a than 10 or gloch ar ddydd Sadwrn. Y swydd gynta bob bore oedd paratoir brechdanau ir cwsmeriaid. Roedd y fan fara yn galw tair gwaith yr wythnos gyda bara wedii sleisio i wneud brechdanau ham, caws, wyau a salad weithiau yn yr haf. Roedden nin prynu cacennau o bopty Dafydd Rowlands. Roedd on dod yn ei ffedog wen a chacennau ar dray bob bore. Roedden nin gwerthu te, coffi, milkshakes a diodydd oer a bisgedi.

Dw in cofio cael gwahoddiad i fynd ar drip i Cadburys World. Roedd pawb oedd yn gwerthu cynnyrch Cadburys yn yr ardal yn cael gwahoddiad. Mynd ar y trn o Fachynlleth i Birmingham, cael diod siocled ar y trn, ein tywys o gwmpas y ffatri yn Bournville cyn cael ffilm am hanes y cwmni. Trip arbennig.

Ein cwsmeriaid mwyaf oedd pobl swyddfeydd Dolgellau a bois y garajes ac roedd pobl y wlad yn dod i wneud eu siopa wythnosol ar ddiwrnod marchnad sef dydd Gwener. Roedd Mis Mai a Mis Medi yn gyfnodau prysur dychrynllyd i ni yn y caffi oherwydd dyna pryd deuair ffair i Ddolgellau. Dw in cofio pobl y stondinnau just yn dod ir caffi er mwyn cael dwr poeth yn eu fflasgiau.

Roedd rhywbeth ymlaen yn aml yn neuadd y dre, nosweithiau llawen, Eisteddfodau a dawnsio gwerin unwaith y mis. Deuai pawb i gwrdd yn y milkbar yn hytrach nar dafarn cyn mynd ir ddawns. Dim ond un waith dw in cofio dyn di meddwi yn dod i mewn ir caffi. Eisteddodd ar stl wrth y cownter a chwympo ar i nl. Bu rhaid i mi alwr plisman a dw in cofio hwnnwn dod mewn ai lusgo allan or milkbar yn dal ei ben o dan ei gesail.

Dyma gwpled ysgrifennodd Gwilym Owen, ysgrifennydd y Clwb Ffermwyr Ifanc:
Y dafarn laeth ywr dafarn lon
Lle nad oes meddwi byth

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509