TPYF
  

Howard Jury

Roedd saith sinema ym Mhontypridd yr adeg honno a gallech fynd i'r sinema bob noson o’r wythnos a gweld gwahanol ffilm.

Fy enw i yw Mr Jury. Cefais fy ngeni ym Mhontypridd ym 1935. Pan orffennodd y rhyfel roeddwn yn ddeg ym 1945. Yn ystod y cyfnod hwnnw dim ond peth ifanc oeddwn i ac fe'm magwyd gyda'r dogni a'r holl bethau eraill oedd yn mynd ymlaen yn y byd. Digon o bethau i'w gwneud. Roeddem yn dyfeisio'n gemau'n hunain. Digon o sinemâu yn ardal Pontypridd. Byddem yn mynd i'r sinema'n aml, nofio'n aml, ond doedd gennym ni ddim cyfleusterau nofio - byddem yn mynd i fyny i hen domen lle roedd pwll ac roeddem ni’n arfer nofio yn fan’ny ar ddydd Sul. Roedd saith sinema ym Mhontypridd yr adeg honno a gallech fynd i'r sinema bob noson o’r wythnos a gweld gwahanol ffilm. Gwych! Achos roedd yn siarad a gallech weld eich hoff actorion o’r flwyddyn honno, chi'n gwybod, y dyddiau hynny, ac roedd yn grêt. Roedd e’n wych. Achos doedd dim teledu gennym ni.

Pan oeddwn i’n beth ifanc roedd dogni a doedd dim llawer gennym i'w fwyta. Roedd yn rhaid i ni fwyta'r hyn a roddwyd i ni, ei hoffi neu beidio! Ond roeddem yn eithaf ffodus weithiau. Roedd fy nhad yn arfer mynd allan i ddal ychydig o gwningod a byddem yn bwyta cawl cwningen un diwrnod, pastai cwningen y diwrnod nesaf a chwningen eto'r diwrnod wedyn, gan nad oeddem yn cael llawer o gig. Wel, doedd neb yn cael llawer o gig y dyddiau hynny.

Ac roedd bob amser gennym rywbeth i'w wneud. Dyfeisio'n gemau'n hunain, chwarae pêl-droed yn y stryd, a byddai pobl yn gweiddi arnom ac ati, chi’n gwybod, pan oeddem yn cicio tun neu ... ! Cawsom amser bendigedig wrth i ni dyfu i fyny. Dwi'n meddwl ei fod yn grêt. Gallwn i ddim ei wneud heddiw. Roedd pawb yn helpu ei gilydd. Roeddwn i'n byw mewn rhes fach o un-ar-ddeg o dai a hyd at 1962, pan briodais i, wnaethom ni fyth gloi ein drws blaen. Roedd ein drws bob amser ar agor. Roedd pobl yn arfer dod - roeddem ni’n byw drws nesaf i glwb bach a byddai pobl yn dod i mewn, agor y drws a gweiddi 'coming in', a dyna ni. Byth yn cloi'r drws yn ystod y nos. Cyfeillgarwch dda gyda phawb.

Roedd fy mrawd yn y llynges ac roedd e ar fwrdd y llong a chyrhaeddodd yn Algiers. Ac roedd fy nhad yn y fyddin ac roedd e yn Algiers yn y dociau, a galwodd dau o'r morwyr enw fy mrawd, 'Taffy’. A phan glywodd fy nhad yr enw 'na, Taff, gofynnodd o ble roedd yn dod ac fe ddwedon nhw "o, rhywle yng Nghymru". Felly fe ddwedodd e, "beth yw ei enw?" Ac fe ddwedon nhw "Jury". A dwedodd fy nhad, "beth yw ei enw cyntaf?" Ac fe ddwedon nhw "Robert". Ac fe ddwedodd, "www" , meddai, "mae hwnna'n dda," a dwedodd, "enw fy mab yw Robert", ac fe ddwedodd, "ei enw olaf yw Jury.” Felly pan wnaethon nhw ei alw, fy mrawd oedd e. Doedd fy nhad ddim yn gwybod ei fod yn y lluoedd arfog o gwbl. Felly fe gwrddon nhw ac wedyn fe gawson nhw ychydig o ddyddiau rhydd yn Algiers, a dangosodd fy nhad Algiers iddo a'r Casbah a gwahanol lefydd felly, chi'n gwybod, ac fe gawson nhw dridiau da gyda'i gilydd. Roedd fy mrawd yn ddwy ar bymtheg oed ond dwedodd ei fod yn ddeunaw er mwyn medru ymuno â'r llynges. Ac fe gafodd amser bendigedig.

Ac mae'n braf edrych yn ôl a meddwl, wel, mae'r dyddiau hynny wedi mynd, ond rydych chi'n gallu gwneud popeth a fynnoch heddiw, ond gallech chi ddim bryd hynny.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509