TPYF
  

Huw D. Jones

Ddes i nabod pobl ffermydd cyfagos, gweld ein gilydd dros y cloddia, cal sgwrs ac yn y blaen ac odd na lawer iawn o gyfeillgarwch yn bod yr adeg honno.

Fe'm ganwyd i yn Birkenhead ond fe ddes i yma i fyw i Morfa Nefyn. Pan ddechreuodd y Rhyfal, roeddwn i'n glerc mewn garej ym Mhwllheli, ond ro’n i wedi penderfynu ceisio cael fy nghofrestru fel gwrthwynebwr cydwybodol oherwydd roeddwn i'n teimlo fod y teimlad o heddychiaeth yn uchel ac yn fawr iawn tu mewn i mi. Ac fe wnes i'r cais hwnnw ac fe wnes i ymddangos gerbron tribiwnlys, ac fe dderbyniwyd fy nghais i. Fe ges fy nghofrestru fel gwrthwynebwr cydwybodol ar yr amod mod i'n gwneud gwaith ar y tir ac fe fum i rhan fwyaf o'r amsar yn gwneud gwaith amaethyddol ar fferm.

Ro'n i'n dechra am hanner awr wedi saith yn y bore ac yn mynd ymlaen tan chwech o'r gloch yr hwyr, dyna'r adeg oni'n gorffen. Roedd hi'n waith dipyn yn llafurus. Doedd peiriannau modern yr oes yma ddim yn bod yr adeg honno. Ceffyla oedd yn tynnu'r peirianna ac yn y blaen, ac aredig, trin y tir. Ac ro'n i'n defnyddio'r rheini, ac yn dod mewn ychydig o amser yn dipyn bach o feistr ar y grefft o'u trin nhw. Ond roedd 'na dipyn o galedi, yn arbennig, allan ym mhob tywydd, rhaid mynd. Roedd 'na dipyn o waith llafurio hefyd.

Ddes i nabod pobl ffermydd cyfagos, fuon ni’n gweld ein gilydd dros y cloddia, cal sgwrs ac yn y blaen ac odd 'na lawer iawn o gyfeillgarwch yn bod yr adeg honno. Penllanw'r cyfeillgarwch yma fydda diwrnod dyrnu, pan fydda ffermwyr yn mynd i helpu ei gilydd, yn de. Chwech, saith, wyth o ffermydd yn ymuno â'i gilydd i fynd i un fferm arbennig a talu nôl wedi hynny, yn de, ac wrth gwrs byddai cinio diwrnod dyrnu ac yn y blaen yn fawr, ac odd 'na lawer iawn o hwyl a thynnu coes, ac yn y blaen.

Wedyn yn syth ar derfyn y Rhyfel, mi ddaeth 'na adeg, y milwyr yn dod adra, awyrennwyr, llongwyr ac yn y blaen, yn cael eu rhyddhau, ac mi gynyddodd geni plant, yn de, cynnydd yn y nifer o blant. Yr adeg yna roedd 'na nifer helaeth o blant yn yr ysgolion, yn de, dosbarthiadau mawr, prinder athrawon, a fe sefydlwyd colega brys i hyfforddi athrawon.

Wedyn mynd o'r coleg i wneud ceisiadau am swydd. Penodwyd fi i ysgol yn Birmingham. Odd dosbarthiadau'n arthurol yno, yn de. Odd 'na lot o chwara pêl-droed ymhlith y bechgyn. Odd 'na dîm pêl-droed yn 'rysgol. Fi odd y 'fenga ar y staff, mi ges i'r anrhydedd o edrych ar eu hola nhw.

Ar ddiwadd y gêm, mi fydda 'na ddewis rhywun i sgwennu dros y Sul hanes y gêm a dod a'r stori i'r ysgol fore dydd Llun a cael mynd ar y llwyfan yn y gwasanaeth, a fydda rhyw chwe chant o blant yno, i ddarllen hanes y gêm, te. Oddan ni’n cael amser reit lwyddiannus, ac yn ennill llawer iawn o'r gemau, yn de, ac oddan nhw’n mwynhau gwneud hyn, er mwyn cael deud 'I scored', yn de, wrth yr holl gynulleidfa. Ddoth 'na un diwrnod, nethon ni golli, yn de, ac oni'n deud, 'Well, who's going to write a report today?' Neb yn atab. A toc, dyma 'na lais yn dwad o'r tu ôl yn rhwle, 'I'll do it Mr Jones'. W'chi be? Do’dd o'm yn gallu darllan yn dda iawn. Mi sefodd ar y llwyfan a mi ddarllenodd i ddeud yr hanes, sut g’naethon ni golli, yn de. A dwi’n dal i gofio amdano fo.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Datganiad Preifatrwydd |  Hygyrchedd |  Hawlfraint

© Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, UK. Ffôn: (+44) 01970 632 500 | Ffacs: (+44) 01970 632 509