Ivor Williams
Roeddwn i'n ufuddhau i orchmynion a gwneud gwaith gwarchod a hyfforddi. Ni oedd yn gyfrifol am ennill parch pobl yr Almaen a gwneud ffrindiau a chadw'r heddwch
Fy enw i yw Ivor Williams. Rwy'n wyth deg oed ac yn byw yn Llwynypia. Ym 1945 ymunais â'r fyddin. Es i wasanaethu yn yr Almaen ym 1946, 1947 a 1948. Des adref ym mis Ionawr 1949. Pan oeddwn yn yr Amlaen doedd dim diddordeb gen i yn y wleidyddiaeth. Roeddwn i'n ufuddhau i orchmynion a gwneud gwaith gwarchod a hyfforddi. Ni oedd yn gyfrifol am ennill parch pobl yr Almaen a gwneud ffrindiau a chadw'r heddwch, helpu i drefnu gwahanol bobl ddisodledig a throsglwyddo bradwyr i'r Gwasanaeth Cudd-ymchwil.
Fe wnaethom hyfforddiant dwys ar y pryd gan ei fod yn ystod cyfnod Y Rhyfel Oer ac roedd Berlin wedi'i rhannu'n bedair adran: Prydeinig, UDA, Ffrainc a Rwsia. Pan adewais y fyddin, aeth fy mataliwn o Dusseldorf i Berlin. Galwyd fy mrawd bach Brian i'r fyddin a gwasanaethodd yn Berlin yn yr un platwn a gyda'r un ffrindiau ro’n i wedi gadael ym 1949.
Roedd gen i barch mawr tuag at gadlywydd fy nghwmni, uwchgapten ar y pryd, darganfuais yn ddiweddarach ei fod wedi amddiffyn yr enciliad yn Dunkirk a'i ddal a'i wneud yn garcharor rhyfel, a'i fod wedi ceisio dianc nifer o weithiau, ac yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n gyrnol ac ef oedd Cadlywydd Barics Wrecsam.


