TPYF
  

John Davies

Ac hefyd cethon ni fynd i lawr i Busan i'r fynwant, yr United Nations, i weld lle roedd yr hogia yn dal i fod yno o hyd - hogia bach odd yn 'fengach na fi.

Cyn i mi fynd i Corea, yn naturiol do'n i'm 'di bod ddim pellach na Rhyl efo trip yr Ysgol Sul. Ac felly adventure fowr i'r hogia pan aethon ni fel National Service i'r Army. Wedyn aethon ni o'r wlad yma drosodd i Hong Kong a gneud tua agos i wyth mis o hyfforddiant yn y fan honno. Doedd dim un ohona ni yn gwybod beth odd o'n blaena ni, ond buan iawn y gwnaethon ni ffeindio allan.

Ac yn ein blaena wedyn o Hong Kong i Busan, landio yn Busan yn Corea. Symud i fyny o'r porthladd yn Busan yn araf deg efo trên stêm y gwnaethon ni, yr hen deip, i fyny am y Gogladd, a fanno oedd yr ymladd pan oeddan ni'n cyrraedd yno yn y flwyddyn 1952. Wedyn ar ôl bod yno am ychydig o amser oddan ni'n dod i arfer efo'r siels a'r twrw a bob dim. Hogia bach oddan ni yn nineteen. Do'n ni ddim yn dallt ddim gwell.

Ond odd hi'n ofnadwy o oer yno. Mi oedd gaeaf ddim yn debyg i Gymru. Oedd hi'n amhosib agor twll na 'foxhole' na dim byd arall, ond cymryd hen dylla pobl erill oddan ni a symud o un lle i llall.

A pan oeddan ni'n Corea, yn naturiol, yr oeddan ni'n mynd allan; 'Harrison fire' oeddan nhw'n galw fo, 'suicide squads' fydda'r hogia'n galw fo. Oeddan ni'n mynd allan i 'no man's land' yn nos, yn naturiol, ddim yn dydd o gwbl neu fydda pawb yn gweld ni. Oeddan ni'n mynd allan i lefydd, tanio yn rhyw certain lle, dim ond am rhyw ddeg munud, a wedyn dengid o 'no ac mewn mater o, allach chi ddeud, pum munud, odd y lle wedi cael ei falurio'n racs. Oddan nhw wedi ffeindio lle oeddan ni, y North Koreans.

Hefyd, dwi'n cofio mynd allan 'Harrison fire' ac, fel on i'n deud, odd y lle mor oer yn gaea' dwi'n cofio cael swatio wrth ymyl rhyw, dwi'n im tan rhyw hen graig ta be o'dd hi, 'di cael lle go handi, a fuo jyst iawn i mi â cysgu yno a'r hogia yn methu neffro i wedyn. Wedyn yn dragio fi nôl ac ymlaen a fuo jyst i mi 'madael a'r fuchedd, i ddeud y gwir 'thach chi, y noson honno. O'n i 'di rhewi jyst.

Ac felly odd hi'n Corea. Doeddach chi ddim yn gwybod ... doeddach chi'm yn aros yn hir iawn yn unlla dim ond symud o gwmpas, dydd a nos.

Tra yn Corea, yn naturiol, un gwael o ni, hopeless am yrru a sgwennu llythyr adra i Mam. Odd Corea mor bell amsar hynny a doedd ’na ddim sôn am Corea yn unlla.

Ces i'r chance i fynd yn ôl i Corea yn y flwyddyn diwetha i weld yr hen le a doedd na ddim byd yn unlla yno yn debyg i'r adag o ni'n gofio yno. Ac hefyd cethon ni fynd i lawr i Busan i'r fynwant, yr United Nations, i weld lle roedd yr hogia yn dal i fod yno o hyd - hogia bach odd yn 'fengach na fi. O'n i ond yn nineteen, odd na hogia fanno, eighteen, ac mi odd na lawar ohonyn nhw yn bocsio ar y cwch pan oeddan ni'n mynd allan yno a dwi wedi bod yn meddwl yn ddifrifol faint o rheini odd yn y fynwant yn Busan. Eighteen a nineteen ydy rheiny o hyd, 'de.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509

;