TPYF
  

Keith Barclay

Penderfynais adael y glofeydd ac ymuno â'r fyddin, ac roedd yn antur. Ymunais â Chyffinwyr De Cymru ym mis Mehefin 1949.

Fy enw i yw Keith Barclay. Gweithiais yn y lofa pan oeddwn yn bedair ar ddeg oed. Ar ôl hyfforddi des yn fachgen postyn. Fy ngwaith pan oeddwn yn fachgen postyn oedd rhoi coed ar gludfelt i'r glowyr ei ddefnyddio i gynnal y to. Byddem yn llenwi tramiau â glo, ac roedd yn waith caled. Byddem yn llenwi deg tram bob dydd.

 

Penderfynais adael y glofeydd ac ymuno â'r fyddin, ac roedd yn antur. Ymunais â Chyffinwyr De Cymru ym mis Mehefin 1949. Roeddwn bron yn ddeunaw oed. Doeddwn i ddim wedi bod i ffwrdd o'r cartref o'r blaen. Roeddwn yn un o naw o blant. Roeddem ni'n byw ym Mhentre. Hyfforddais am ddeng wythnos yn Aberhonddu. Roedd yn rhaid i ni ddysgu i ddefnyddio a saethu reifflau. Roedd yn rhaid i ni hefyd orymdeithio ar y maes parêd.

 

Aethom i Eritrea, ger Ethiopia. Reifflwr oeddwn i ddechrau, ac yna des yn saethwr gwn peiriant Vickers. Y prif waith oedd amddiffyn yr Eidalwyr. Roeddem ni'n filwyr meddiannol. Roedd yr Eidalwyr wedi cadw'r bobl yn Eritrea'n gaethweision am flynyddoedd lawer.

 

Rwy'n cofio bod mewn platwn mewn lle o'r enw Burrento ar y ffin ger Ethiopia. Aethom mewn awyrennau adnabod un adain i chwilio am symudwyr. Roedd yn rhaid i ni ollwng negeseuon i'r patrolau agosaf i ddweud wrthynt am leoliadau symudwyr. Roedd symudwyr yn ysbeilwyr neu'n ymladdwyr dros ryddid. Roedd yn gyffrous ond hefyd yn frawychus.

 

Ym 1951 penderfynais ddychwelyd i'r lofa ar Adfyddin Dosbarth W er mwyn cwblhau pum mlynedd o wasanaeth. Roeddwn wedi cael fy anafu allan yn Eritrea. Roeddwn yn yr ysbyty am gyfnod.

 

Dros y blynyddoedd rwyf wedi difaru dod allan o'r fyddin ac rwyf wedi rhoi amser i'r cymdeithasau. Wrth edrych yn ôl byddwn yn dweud fy mod heddiw yn ddyn milwrol, er fy mod yn fodlon gyda bywyd sifiliad a theulu.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509

;