TPYF
  

Stori Phyllis

ac rydw i'n cofio wnaethon ni roi llenni duon ar y ffenest

Ysgol Gyfun Penweddig

Cawson ni blacowts, ac rydw i'n cofio wnaethon ni roi llenni duon ar y ffenest - eu gwneud nhw. Ac rydw i'n cofio un tro ro'n i'n byw gyda fy mam ac roedd rhywun wedi codi un gornel i fyny, a dim ond cornel fach oedd 'na, ac wedyn cafodd fy mam ei ffeinio am hynny.

Os oeddech chi ar ben eich hun, roedd yn anodd iawn. Ond os oeddech chi gyda theulu, a'i gymysgu i gyd, doedd hi ddim mor ddrwg wedyn 'dych chi'n gweld.

Ar ddiwedd y rhyfel cawson ni bartis - dathlu. A gwnaethon ni i gyd wneud cyfraniad tuag ato, achos roedd 'na'r dogni. Roedd yn rhaid i ni i gyd roi rhywbeth 'dych chi'n gwbod.

Collais i fy ngwr. Fuo fo farw dros y dwr. Dim ond dau ddeg tri oedd o a finnau'n ddau ddeg. Fuo fo farw allan yn Cairo. Cafodd o 'meningitis'.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509