TPYF
  

Ron Hambly

Disgynnon o'r llong a chymerwyd ni i'n gwersyll yn El Balla gyda thrên.

Ron Hambly ydw i. Fe'm galwyd i wasanaeth milwrol ym 1951. Dwedwyd wrthyf am fynd i bencadlys y Gwarchodlu yn Caterham yn Surrey. Gan fy mod yn Gymro o Gaerdydd fe es i i'r Gwarchodlu Cymreig. Yno, cwblheais fy hyfforddiant ac yn y pendraw fe'm hanfonwyd i Berlin fel gwarchodluwr. Cyn dychwelyd i'r DU ar gyfer y coroniad fe ges fy nyrchafu'n Sarsiant ac ar ôl y coroniad cefais fy anfon i'r Aifft, ac fe hwylion ni ar y llong Empire Ken ym mis Hydref 1953, gan gyrraedd ardal y Gamlas [Suez] wyth neu ddeng niwrnod yn ddiweddarach.

Roeddem wedi hwylio o Southampton ac roeddwn i'n aelod o'r blaenllu. Fy ngwaith ar fwrdd y llong oedd sarsiant paciau'r llong a'r gwaith oedd sicrhau fod yr holl baciau offer a'r paciau a oedd wedi dod o'r bataliynau wedi'u storio ar fwrdd isaf y llong.

Y lle cyntaf i ni stopio ar ôl gadael Southampton oedd Malta, ac yna ymlaen i Alexandria, ac yn y pendraw Suez. Disgynnon o'r llong a chymerwyd ni i'n gwersyll yn El Balla gyda thrên. Roedd dwr yn brin iawn ac roedd y cludwyr brin roeddem yn eu defnyddio'n sychedig iawn felly bu raid i ni gael dwr o ble bynnag y gallwn ni.

Roedd gen i dri chyfaill da, oll yn sarsiantiaid: Chocky White, Dennis Thorne a Taffy Jones. Aethom i brynu sbectol haul un diwrnod a phenderfynu torheulo dan haul yr Aifft. Roedd dwr ar gyfer ymolchi ac eillio hefyd yn brin iawn. Roedd rhaid cael gafael ar y tun bîns mwyaf posibl, taro tyllau yn y gwaelod, gwneud math o bostyn, ei hongian ar y top, ei lenwi â dwr, a dyna sut gawsom ni gawod.

Yn ystod Nadolig 1953 casglais cymaint o boteli cwrw a ffrwythau ag y gallwn o ystafell fwyta’r sarsiantiaid. Es yn ôl at fy llety ar ôl bod i wasanaeth yn yr eglwys i ddarganfod fod y llety'n wag. Roedd yr holl fechgyn wedi mynd i'r NAAFI (1) i gael diod. Felly chwiliais am gymaint o sanau budron ag a fedrwn a'u hongian ar waelod eu gwelyau, a'u llenwi â phecyn o sigarennau, oren a photel o gwrw. Dyma fy anrheg Nadolig iddynt. Pan ddychwelodd y bechgyn roeddwn i yn fy ngwely; roeddwn i’n cysgu’n drwm. Dyma nhw'n codi fy ngwely, ei gario allan o’r bync, oedd yn babell, a chario’r gwely gyda fi ynddo i sgwâr y barics, a dyna le gadawon nhw fi. Deffrais o dan sêr yr Aifft!

(1) Navy, Army and Air Force Institutes

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509