TPYF
  

Ted Owens

Pan gyrhaeddom ni'r traeth sylweddolais mai brwydr go iawn oedd hi

Mr Ted Owens o Ddoc Penfro ydw i. Pan oeddwn yn ddeunaw oed fe'm galwyd i wasanaethu ac fe'm hanfonwyd i ddepo hyfforddi'r Mr-filwyr Brenhinol yn Nyfnaint. Cwblheais fy holl hyfforddiant cychwynnol a chefais fy newis i fynd i ysgol yn yr Alban. Ysgol hyfforddi'r Comandos oedd hi; ar y pryd yr ysgol hyfforddi galetaf yn y byd. Derbyniais fy meret gwyrdd rwy'n gwisgo gyda balchder heddiw.

Roedd yr hyfforddiant yn galed iawn. Roeddem yn dysgu llawer o bethau, a'r prif beth oedd sut i ladd. Dwedsant wrthym yr holl wahanol syniadau, gyda dy law, gynnau, popeth, sut i ladd. A derbyniais fy nghyllell ymladd arbennig.

Fe es yn gl-saethwr. Ymladdais yn Ffrainc, yng Ngwlad Belg ac yn yr Iseldiroedd a hefyd ar ffin yr Almaen. Ymladdais hefyd ar Ddydd-D. Cymrais ran yng nglaniadau Dydd-D ac fe ges fy rhoi ar gwch glanio am ddeuddydd. Aethom ar y mr. Roedd y tywydd yn ddrwg iawn. Pan gyrhaeddom ni'r traeth roedd y swn yn ddychrynllyd. Bomiau, popeth. Ond roedd gennym bibydd o'r Alban a ganodd y pibau, ac rwy'n credu ei fod yn ddyn dewr i wneud hynny.

Pan gyrhaeddom ni'r traeth sylweddolais mai brwydr go iawn oedd hi, gyda chyrff yn gorwedd o gwmpas. A dwedwyd wrthym am daflu'n hetiau tun dros yr ochr ac i wisgo'r bere gwyrdd er mwyn ofni'r gelyn. Saethais dair neu bedair o weithiau at yr adeilad a daeth ffrwydryn a glanio ar y tanc ac fe'm gorchuddiwyd shrapnel. Roeddwn wedi parlysu gan sioc. Doeddwn i ddim yn anymwybodol, ond allwn i ddim hyd yn oed symud bys. Roeddwn yn yr ysbyty am ddeufis a hanner.

Cawsom Frwydr enwog y Bulge, lle ceisiodd yr Almaenwyr dorri trwodd. Fe'm hanfonwyd yno ac aethom i bentref bach yn ymyl St Toganbosh lle aethom o dy i dy. Daeth ffrwydryn drosodd a thrawo'r wal ble'r oeddwn i'n gorwedd ac aeth darn o shrapnel drwy fy ngwddf. Aethpwyd fi i'r ysbyty. Dyna ddiwedd y rhyfel i fi.

Es i 60ain pen blwydd diwedd y rhyfel yn Ffrainc. Mi wnes gyfarfod 'r Frenhines, Tony Blair, a sawl person pwysig arall. Roedd yn hynod ddiddorol. Cefais sgwrs gyda'r Frenhines a gofynnodd imi ble fues i'n ymladd a dwedais "Sword Beach yn Ffrainc," a dwedais, "cefais hefyd fy nghlwyfo ddwywaith wedyn, teirgwaith yn gyfan gwbl." Dwedodd y Frenhines wrthyf, "Aethoch chi dros ben llestri ychydig!" Ac atebais, "Do, dwi ddim yn meddwl oedd yr Almaenwyr yn hoff o fy wyneb", a dechreuodd hi chwerthin.

Tra oeddwn yn Ffrainc yn ystod y 60ain pen blwydd meddyliais y byddai'n syniad da gosod torch wrth gofeb ryfel yr Almaen gan eu bod yn filwyr yr un fath ni. Roedd yn rhaid iddynt ufuddhau i orchmynion. Mae'n rhaid maddau ac anghofio. Yn y pendraw, roedd dau neu dri chant o Almaenwyr o 'nghwmpas a phawb eisiau siglo fy llaw ac yn dweud ei fod yn arwydd hyfryd o ewyllys da, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny.

Culturenetcymru Big Lottery Fund National Library of Wales Imperial War Museum Privacy Statement |  Accessibility |  Copyright

© Culturenet Cymru, The National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU UK. Tel: (+44) 01970 632 500 | Fax: (+44) 01970 632 509