Valmai Trevena
Ar ôl y rhyfel roedd y llywodraeth yn eiddgar i wneud bywydau pobl yn well trwy drial dileu afiechydon a helpu pobl â phroblemau anabledd meddyliol a chorfforol.
Yn 1953 dechreuais fy swydd fel ymwelydd iechyd yn yr ardal rhwng Bow Street hyd at Glandyfi. Ar ôl y rhyfel roedd y llywodraeth yn eiddgar i wneud bywydau pobl yn well trwy drial dileu afiechydon a helpu pobl â phroblemau anabledd meddyliol a chorfforol. Yn 1948 cyflwynwyd y 'National Health Service' oedd yn caniatáu triniaeth am ddim i bawb.
Pan oedd y babis yn fis oed roedden ni’n cymryd drosodd oddi wrth y 'midwives' a bydden ni’n mynd mewn i gynghori'r mamau am laeth y babi, a gwneud yn siwr eu bod nhw’n bwydo'r babis yn iawn.
Roedd gen i hen gar 'Morris' ac roedd y 'boot' bob amser yn llawn gyda tuniau o 'National Dried Milk', sudd oren a 'cod liver oil'. Roedd rhaid i mi fynd i weld pobl mewn llefydd anghysbell gan nad oedd rhai menywod yn dreifo ac nid oedd gan bobl lawer o geir o ganlyniad i’r tlodi ar ôl y rhyfel.
Rhaid oedd i’r babis gael eu imiwneiddio yn erbyn tetanus, diptheria a 'whooping cough'. Nes ymlaen, ar ddiwedd y 50au, bu imiwneiddio yn erbyn polio a pan oedd y plentyn yn ddwy oed ceir brechiadau yn erbyn 'smallpox'. Yn ogystal â brechiadau, roeddwn yn 'testio' eu clyw trwy gymorth tegan a chloch, a delio ag unrhyw fan namau. Roedd clinic yn y neuadd y Borth ac yn yr hen ysgoldy yn Nhaliesin, a byddai meddyg teulu yn dod yno unwaith y mis.
Hefyd roeddwn yn ymweld â’r ysgolion gyda phwyslais ar lendid y plant. Roedden nhw’n cael BCG a 'mantoux test'. Roedd y plant mawr yn cael 'medical examination' ym mlwyddyn cyntaf ac olaf yr ysgol fawr.
Roedden ni’n ymweld â’r henoed hefyd i destio eu clyw, eu golwg a gweld os oedden nhw’n cael trwbwl i gerdded, yn ogystal â monitro diogelwch y ty. Nid oedd gan y bobl dan anfantais gyfleusterau da ac roedd hi’n anodd iawn arnynt yr amser hynny.
Yn ystod yr amser hyn cafodd mwy o grantiau eu cyflwyno. Un o’r grantiau yma oedd 'child allowance' lle roedd y teulu yn derbyn wyth swllt am eu hail blentyn, ond heblaw am y pensiwn nid oedd yr henoed yn derbyn unrhyw arian.
Roeddwn yn hoff iawn o fy swydd gan fy mod i allan yn yr awyr agored ac yn cwrdd â bobl diddorol, gan obeithio eu helpu. Ar ôl y rhyfel roedd pawb yn edrych ymlaen i’r 'Brave New World'.


